Wel, dyma'r eiddil, dyma'r gwan,

Text:  William Williams (Pant-y-celyn) 
Music:  Prys' Psalter  1621
Tune:  St. Mary  8.6.8.6
OHT Incipit:  13211 76557 35435

Wel, dyma'r eiddil, dyma'r gwan,
Yn gruddfan wrth dy draed,
Tu hwnt pob gobaith i gael byw
Ond trwy dy ddwyfol waed.

Rhifedi 'meiau sydd dros ben
Pob haeddiant oll o dyn;
Ac nid oes genyf noddfa im
Ond haeddiant Duw ei hun.

Mor anobeithiol yw fy mriw,
'Da'i mofyn meddyg mwy
Ond ato_ei hunan ar y pren
Ddioddefodd farwol glwy'.

Am iddo_yno grymu Ei ben,
A marw ar y groes,
Mwy na rhifedi beiau'r byd
Yw haeddiant dwyfol loes.

Wel, dyma'r unig fan y mae,
Os oes, im gael iachad;
Ac yma credaf, os caf rym,
Mewn dynol ddwyfol waed;

Ac yna gwnaed y ddaear fawr
Ei gwaethaf, foreu_a nawn;
O fewn fy noddfa sanctaidd bur,
Y byddaf ddedwydd iawn.

The Ames Hymn Collection

MIDI sequence copyright © 2004 Brian M. Ames.

accesses. Updated 4/28/04

 This page copyright © 1999 Brian M. Ames All rights reserved.