Rhyfeddol byth, rhyfeddol

Text:  Michael Roberts 
Music:  Welsh Hymn Melody 
Tune:  Meirionydd  7.6.7.6.7.6.7.6
OHT Incipit:  54332 12335 43432

Rhyfeddol byth, rhyfeddol
Yw cariad rhad fy Nuw,
A redodd yn yr arfaeth
At ddynion gwael eu rhyw,
A'u dewis mewn Cyfryngwr
A'u rhoddi iddo'n had,
Ac yntau yn ymrwymo
I'w dwyn yn un a'i Dad.

Etholiad, heb un ammod
Yn sefyll ar y dyn
Yn tarddu o foddlonrwydd
Ewyllis Duw ei hun
Tragwyddol, heb un dechreu,
Anghyfnewidiol yw;
Mae'r sylfaen a'r adeilad
I gyd o gynghor Duw.

Etholwyd i feddiannu'r
Holl ragorfreintiau drud
Y moroedd o fendithion
Sy 'ngwaed Iachawdwr byd:
Cyfiawnder a sancteiddrwydd,
A gogoneddiad llawn;
Rhad, rhad! fydd anthem Seion
Am fath annhraethol ddawn.

Mae'r moddion a'r dybenion
Mewn cwlwm sicr iawn;
'Does modd fod gwell sefydliad
Mae'n ddoeth, o ras yn llawn:
Prif ddyben ethol ydoedd
Dyrchafu gras fy nuw
Ac wrth wneyd hyny, achub
Myrddiynau_o ddynolryw.

The Ames Hymn Collection

MIDI sequence copyright © 2004 Brian M. Ames.

accesses. Updated 4/28/04

 This page copyright © 1999 Brian M. Ames All rights reserved.