Y Man bech di, fy Arglwydd mawr

Text:  William Williams (Pant-y-celyn) 
Music:  Welsh Hymn Melody  1859
Tune:  Lledrod  8.8.8.8
OHT Incipit:  11215 35132 22516

Y Man bech di, fy Arglwydd mawr,
Yn rhoi dy nefol hedd i lawr,
Mae holl hausrwydd maith y byd,
A'r nef ei hunan yno_i gid.

Nid oes na haul, na ser, na lloer,
Na ddaear fawr, a'i holl ystor,
Na brawd, na chyfaill, da na dyn,
A'm boddia hebot ti dy hun.

'Dyw'r gair 'maddeuant' imi ddim,
Nid oes mewn gweddi ronyn grym,
A llais heb sylwedd ynt i gyd,
Heb imi wel'd dy wyneb pryd.

Na soniwch am un pleser mawr,
Na dim gogoniant ar y llawr;
Nid oes gogoniant o un rhyw,
Na phleser arall ond fy Nuw.

Pan byddo'n cuddio ei_wyneb cu,
Beth wna teganau'r byd i_mi?
Rhith a breuddwydion, diau yw
Pob peth a welir ond fy Nuw.

Os collaf wedd ei wyneb pryd,
'Does dim wna iawn o fewn i'r byd;
'Does dim yn bod o'r ddae'r i'r nen
A ddwg y golled hon i ben.

The Ames Hymn Collection

MIDI sequence copyright © 2004 Brian M. Ames.

accesses. Updated 4/28/04

 This page copyright © 1999 Brian M. Ames All rights reserved.